Papur 2

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Ymateb gan: Y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am lansio’r ymchwiliad hwn i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru ac rwy’n falch iawn o allu rhoi tystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o’r ymchwiliad. Rydym wedi gweld blwyddyn ryfeddol o ran chwaraeon yng Nghymru, gan gynnwys dyrchafiad clwb pêl-droed Dinas Caerdydd i’r Brif Gynghrair ac Abertawe yn cadw eu lle yno, Cymru yn ennill Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn 2013 ac athletwyr o Gymru yn ennill mwy o fedalau nag erioed o’r blaen yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Mae’r flwyddyn eithriadol hon i chwaraeon wedi rhoi hwb sylweddol i’r genedl ac mae’n helpu i ysbrydoli pobl o bob oed i gyfranogi mewn chwaraeon eu hunain.

 

Mae’r Pwyllgor wedi nodi nifer o feysydd i’w hystyried ac mae’r rhan fwyaf ohonynt o fewn portffolio’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. Mae’r dystiolaeth hon yn canolbwyntio felly ar yr rhan o’r ymchwiliad sy’n berthnasol i’m portffolio innau yn unig.

 

Effaith gwaddol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Ryder a digwyddiadau a llwyddiannau eraill ym maes chwaraeon a gafodd broffil uchel yng Nghymru, ar lefelau cyfranogiad yng Nghymru.

 

LansiwydDigwyddiadau Cymru – Strategaeth Digwyddiadau Mawr Ar Gyfer Cymru 2010-2020’ ym Medi 2010 gyda’r nod o adeiladu ar lwyddiant ‘Tîm Cymru’ i gyflwyno digwyddiadau rhyngwladol mawr fel y Gêm Prawf Lludw yn 2009, Cwpan Ryder yn 2010 a’r gwersylloedd hyfforddi a’r gemau pêl-droed a gafwyd fel rhan o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

 

Y weledigaeth yw i Gymru gael ei chydnabod fel lleoliad sy’n ardderchog bob amser ar gyfer digwyddiadau mawr, gyda chenhadaeth i ddatblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo enw da Cymru yn fyd-eang a lles ei phobl a’i chymunedau. Yn 2013/14 mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi 39 digwyddiad trwy Gymru - 20 ym maes chwaraeon a 19 ym maes diwylliant.

 

Yn ddi-os mae digwyddiadau mawr yn dal dychymyg pobl ar draws y byd ac mae ymchwil wedi dangos y gallant ddarparu manteision economaidd sylweddol a gwella enw da a phroffil rhyngwladol y wlad sy’n eu cynnal. Mae cydnabyddiaeth gynyddol hefyd bod digwyddiadau mawr yn gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb llawer o unigolion a chymunedau gwahanol a thrwy hyn wella lles cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

 

Fel mae’r enghreifftiau yn y cyflwyniad hwn yn dangos, mae digwyddiadau mawr yn gallu darparu llwyfan sydd â phroffil uchel i gyfleu negeseuon cadarnhaol a rhoi i bobl brofiadau mewn bywyd sy’n hybu ffordd o fwy iachach a chyfranogiad mewn chwaraeon. Gall digwyddiadau chwaraeon â chyfranogiad torfol helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd ymarfer corff rheolaidd a gall gynyddu nifer aelodau clybiau a chyrff llywodraethu. Er enghraifft, mae Hanner Marathon Caerdydd, gyda chefnogaeth gan yr Uned Digwyddiadau Mawr yn y blynyddoedd diweddar, wedi tyfu nes mai dyma’r digwyddiad chwaraeon sydd â mwyaf o bobl yn cymryd rhan ynddo o unrhyw fath o chwaraeon yng Nghymru ac mae’n un o’r rasys ffyrdd mwyaf ym Mhrydain. Ers 2008, mae’r nifer sy’n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu’n gyflym - o ryw 8,000 i 18,000 yn 2012. Y nod yn awr yw cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan yn y ‘digwyddiad torfol’ i 25,000 a’r nifer sy’n gwylio i 60,000 a recriwtio o leiaf 800 o wirfoddolwyr erbyn 2015. Wrth wneud hyn, bydd y digwyddiad yn dal i ennill ei blwyf fel un o Ddigwyddiadau Mawr ac Unigryw Cymru gyda’r posibilrwydd o dyfu a datblygu yn sylweddol eto (gan gynnwys cynnig cyfleoedd i greu swyddi) dros y blynyddoedd nesaf.

 

Gall digwyddiadau mawr llwyddiannus hefyd ysbrydoli cymunedau trwy waith gwirfoddol lleol, oherwydd gall pobl wirfoddoli yn y digwyddiad ac yn anad dim gael cyfle i weld y digwyddiad yn fyw.

 

Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012

Mae llwyddiant Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 wedi helpu i godi proffil chwaraeon trwy Gymru gyfan. Ar ôl Llundain 2012, cyhoeddodd Chwaraeon Cymru fod nifer y bobl sy’n gwneud chwaraeon yng Nghymru wedi cynyddu’n syfrdanol ers y Gemau. Gwelwyd cynnydd o fwy na 30% mewn nofio a bocsio yn y chwe mis ar ôl y Gemau, sefydlwyd 30 o glybiau canŵio newydd i ymdopi â’r cynnydd yn y galw ac mae llawer o chwaraeon Olympaidd eraill wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n cymryd rhan. Ond yr her i ni i gyd yw sicrhau ein bod yn defnyddio digwyddiadau chwaraeon mawr fel catalydd i helpu i annog pobl o bob oed, rhyw a grŵp cymdeithasol i wirfoddoli neu gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ffordd sy’n gynaliadwy i’r hirdymor.

 

Gwnaeth llawer o Gymry gais i fod yn un o’r gwirfoddolwyr swyddogol ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd neu yn un o Hyrwyddwyr Gemau Llundain 2012. Cyfwelwyd â rhyw 3,500 o bobl yng Nghymru. Ar ben hynny, recriwtiodd Cyngor Caerdydd dros 300 o Genhadon y Cyngor, i gynrychioli Caerdydd a Chymru trwy groesawu gwylwyr a thimau a oedd yn ymweld â’r Ddinas ar gyfer yr 11 o gemau pêl-droed Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm yn ogystal â’r 24 o dimau o bob un o’r 5 cyfandir a wnaeth Gymru yn gartref iddynt eu hunain ar gyfer eu hyfforddiant cyn y Gemau. Mae’r gronfa ddata hon o wirfoddolwyr yn enghraifft o waddol byw Gemau Llundain 2012 ac mae’n cael ei defnyddio ar gyfer cyfleoedd i wirfoddoli mewn digwyddiadau yn awr ac yn y dyfodol yn y ddinas a’r cyffiniau.

 

Gemau Cymruyw prif brosiect gwaddol chwaraeon Llundain 2012 yng Nghymru. Menter ydyw a grëwyd gan yr Uned Digwyddiadau Mawr ac a gefnogir gan Chwaraeon Cymru, yr Urdd a fforwm Prif Weithredwyr y Cyrff Llywodraethu ac mae Gemau Cymru yn gystadleuaeth genedlaethol, ddwyieithog, gynhwysol i blant o oed ysgol, ar gyfer llawer o wahanol chwaraeon yn arddull y Gemau Olympaidd. Cafodd ei lansio yng Ngorffennaf 2011. Y llynedd roedd y digwyddiad yn cynnwys 13 o chwaraeon a denodd dros 1,300 o athletwyr o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd. Dangoswyd y digwyddiad mewn rhaglen 30 munud a ddarlledwyd gan S4C a chafwyd sylw ar raglenni newyddion Channel 4 ac ITV, BBC Cymru, Radio Cymru, 5 Live, Prynhawn da a Heno. Hyfforddwyd 83 o wirfoddolwyr i gyflwyno’r digwyddiad, sy’n unigryw fel partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Mae Gemau Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol at ehangder a dyfnder y rhaglen o gystadlaethau chwaraeon Cymru gyfan i blant o oed ysgol dros ystod eang o chwaraeon. Mae’r Uned Digwyddiadau Mawr a’r Gangen Polisi Chwaraeon yn cydweithio i gael y manteision mwyaf posibl o Gemau Cymru er mwyn hyrwyddo a datblygu eu heffaith a’u cynaliadwyedd hirdymor.

 

Cwpan Ryder

Sefydlwyd Datblygu Golff Cymru o ganlyniad i gais llwyddiannus Cymru i gynnal Cwpan Ryder. Dyma gangen ddatblygu Undeb Golff Cymru ac mae’n bartneriaeth strategol rhwng Undeb Golff Cymru, y Sefydliad Golff a Chwaraeon Cymru. Crëwyd Cronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder i sicrhau bod cynnal Cwpan Ryder yn cael effaith ar y genedl, nid yn unig yn ystod y digwyddiad ond am flynyddoedd lawer i ddod. Cafwyd cyfraniad o £2m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar y pryd, a oedd yn rhoi cyfle ardderchog i hyrwyddo datblygu’r gêm yng Nghymru. Cefnogwyd cyfanswm o 40 o brosiectau mewn 38 o leoliadau trwy Gymru. Yn y flwyddyn ar ôl Cwpan Ryder cymerodd tua 33,000 o bobl ran mewn cynlluniau a drefnwyd gan Ddatblygu Golff Cymru ac mae nifer yr aelodau iau mewn clybiau wedi cynyddu, yn enwedig ymhlith merched iau.

 

Digwyddiadau mawr

Gall rhai digwyddiadau chwaraeon gyfuno cystadleuaeth chwaraeon elitaidd sydd â phroffil uchel gyda digwyddiad sydd ag elfen o gyfranogiad torfol (e.e. y ras beicio ffyrdd Tour of Britain, Hanner Marathon Caerdydd ac Ironman). Mae’r elfen o gystadleuaeth elitaidd yn llwyddo i godi proffil Cymru ym Mhrydain a thros y môr ac mae’r elfen o gyfranogiad torfol yn gwneud y digwyddiad yn fwy cynaliadwy yn ariannol ac yn creu effaith o ran twristiaeth a’r economi yn ogystal â’r holl fanteision cymdeithasol gan gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae digwyddiadau beicio â chyfranogiad torfol er enghraifft yn denu cynulleidfaoedd, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr newydd i’r gamp ac yn mynd law yn llaw â strategaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys twristiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy a gwella iechyd y bobl. Amcangyfrifodd yr heddlu fod 90,000 o bobl wedi gwylio’r rhan o Tour of Britain 2012 a gynhaliwyd yng Nghymru, rhwng y Trallwng a Chaerffili. Mae Beicio Cymru yn defnyddio’r digwyddiad i godi proffil beicio yng Nghymru ac i helpu i hyrwyddo eu rhaglenni mewn ysgolion gyda gwahanol weithgareddau yn digwydd ar hyd y daith ac er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i fwy o bobl gymryd rhan. Mae ar y digwyddiad angen gwasanaeth cannoedd o wirfoddolwyr lleol, marsialiaid ras a swyddogion ac mae’n rhoi cyfle unigryw i feicwyr amatur feicio rhan o’r daith o flaen y rhai proffesiynol.  

 

Mae sylw yn y cyfryngau i ddigwyddiadau mawr hefyd yn creu cyfleoedd i gyfleu negeseuon cadarnhaol i’r cyhoedd a hyrwyddo cyfranogiad. Yn 2012, darlledwyd ras beicio ffyrdd Tour of Britain yn fyw ar ITV4 ym Mhrydain a gwyliodd 460,000 y rhan ohoni oedd yng Nghymru. Dangosodd wyth o raglenni 60 munud uchafbwyntiau’r digwyddiad gyda’r hwyr gan gyrraedd cyfartaledd o 526,000 o wylwyr gyda phob rhaglen. Rhoddodd pob un o ddarlledwyr mawr Prydain (BBC, ITV, Newyddion Sky a Chwaraeon Sky) sylw i’r digwyddiad yn ogystal â rhwydweithiau radio’r BBC a’r holl bapurau newydd argrafflen mawr ac edrychwyd ar dudalennau gwefan Tour of Britain bron i 7 miliwn o weithiau. Bydd y lefel hon o sylw yn y cyfryngau yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb llawer o bobl.

 

Cynhelir Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Abertawe yn 2014 a bydd hyn yn adeiladu ar fomentwm Gemau Paralympaidd Llundain 2012. Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a’r Uned Digwyddiadau Mawr, mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio’r digwyddiad i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cynhwysiant mewn chwaraeon i blant ac oedolion anabl, hyrwyddo cyfleoedd mewn chwaraeon a hyrwyddo manteision ehangach o ran cymunedau mwy goddefgar, cynhwysol a chydlynol.

 

Trwy gydweithio’n glòs â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol rydym yn ceisio canolbwyntio buddsoddiadau mewn digwyddiadau sy’n gallu creu manteision economaidd a swyddi i Gymru ond sydd hefyd yn gallu cyflawni deilliannau cymdeithasol, yn enwedig o ran datblygu chwaraeon, sy’n gysylltiedig â gwirfoddoli a chynyddu cyfranogiad a helpu Cymru i ddod yn genedl fwy egnïol.

Edwina Hart CStJ, MBE

Y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth